Os ydych yn ystyried gweithio drwy gwmni ambarél, neu’n gwneud hynny eisoes, gallwn eich helpu i ddeall trefniadau eich cyflog, a sut i’w wirio fel nad ydych yn cael eich dal ar gam.
Rydym yma i’ch helpu i adael cynllun Arbed Treth, a rhoi gwybod amdano. Gallwch gamu’n ôl ar ben ffordd, a helpu i amddiffyn eraill.
Adnabod Arbed Treth
Gyda’n cymorth ni, mae adnabod Arbed Treth yn rhwydd. Efallai eich bod yn meddwl bod yn rhaid i chi fod yn arbenigwr neu ei bod hi’n anodd adnabod cynllun o’r fath. Gallwn ddangos i chi sut i amddiffyn eich hun rhag cynlluniau Arbed Treth.
Yn aml, bydd Arbed Treth yn cynnwys trafodion artiffisial – pwrpas y rhain yw honni’n dywyllodrus eich bod yn gostwng treth.
Os ydych wedi bod yn rhan o gynllun Arbed Treth, bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth sydd arnoch yn gyfreithiol, yn ogystal â thalu llog. Yn anffodus, bydd hyn yn ychwanegol at unrhyw ffioedd yr ydych eisoes wedi eu talu i’r person a werthodd y cynllun i chi.
Gallwch ddarllen eich canllaw byr i adnabod yr arwyddion o Arbed Treth.
Gwirio eich cyflog
Y ffordd orau o osgoi cael eich dal mewn cynllun Arbed Treth yw trwy ddeall sut yr ydych yn cael eich talu. Mae hyn yn berthnasol i bobl sy’n rhan o TWE a Hunanasesiad.
Bydd gwirio eich slipiau cyflog a’ch trefniadau contractiol yn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Drwy wneud hyn byddwch yn osgoi cael bil treth annisgwyl yn hwyrach ymlaen.
Mae’r pethau y bydd yn rhaid i chi fod yn wyliadwrus ohonynt yn cynnwys y canlynol:
- cael mwy o arian yn eich cyfrif banc na’r hyn sy’n cael ei nodi ar eich slip cyflog
- cael taliadau sy’n rhydd o dreth, fel benthyciadau a chyfalaf ymlaen llaw
Dylai’r swm yr ydych yn ei gael yn eich cyfrif banc gyd-fynd â’r cyflog net sydd wedi ei nodi ar eich slip cyflog. Er mwyn deall yn well am y ffordd y dylai eich slip cyflog edrych, darllenwch ein harweiniad ar slipiau cyflog.
Yn ogystal, gallwch ddefnyddio’r gwiriwr risgiau hwn i weld a yw’n bosibl bod unrhyw un o’ch contractau yn ymwneud ag Arbed Treth.
Hanesion personol
Mae pawb yn gyfrifol o dan gyfraith y DU am dalu’r swm cywir o dreth. Hyd yn oed os ydych yn enwebu rhywun i ymdrin â’ch materion treth ar eich rhan ac yn cael cyngor gwael. Os byddwn yn canfod eich bod yn rhan o gynllun Arbed Treth, bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth sydd arnoch yn gyfreithiol, yn ogystal â thalu llog. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hefyd. Yn anffodus, bydd hyn yn ychwanegol at unrhyw ffioedd yr ydych eisoes wedi eu talu i’r person a werthodd y cynllun i chi.
Hanes Chantelle
Cafodd Chantelle ei dal ar gam gan gynllun Arbed Treth. Mae hi’n nyrs o Watford. Dechreuodd Chantelle bryderu bod rhywfaint o’i chyflog o swydd gydag asiantaeth newydd yn cael ei dalu i’w chyfrif banc heb ddidynnu unrhyw dreth oddi wrtho. Cysylltodd â CThEF er mwyn cael help.
Darllenwch hanes Chantelle ar GOV.UK.
Darllenwch drawsgrifiad o fideo Chantelle
Hanes Tanya
Mae Tanya yn rhiant sengl ac yn nyrs. Cafodd ei hannog i ymuno â chynllun Arbed Treth. Arweiniodd hynny at fil treth mawr, annisgwyl iddi.
Darllenwch hanes Tanya ar GOV.UK.
Darllenwch drawsgrifiad o fideo Tanya
Hanes Duncan
Mae Duncan yn Rheolwr Prosiect yn y maes TG. Penderfynodd ddefnyddio cwmni ambarél er mwyn ei helpu gyda gweinyddu ei gyflogres. Nid oedd yn gwirio’r manylion, ac fe ymunodd â chynllun Arbed Treth yn y diwedd.
Darllenwch hanes Duncan ar GOV.UK.
Darllenwch drawsgrifiad o fideo Duncan
Gadael Cynllun Arbed Treth
Os ydych o’r farn eich bod efallai yn rhan o gynllun Arbed Treth, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn eich cynorthwyo. Gallwn roi cymorth i chi adael y cynllun a setlo’ch materion treth.
Nid anwybyddu’r broblem yw’r ateb cywir. Po hiraf y byddwch yn gadael y broblem heb ei datrys, y mwyaf fydd y bil treth.
Ein nod yw eich cael yn ôl ar y trywydd cywir. Ni fyddwn yn barnu – dim ond cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch. Os na allwch fforddio talu popeth ar un tro, efallai y byddwn yn gallu cynnig trefniant talu fesul rhandaliad i chi.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad ar Arbed Treth: gadael cynllun arbed treth.
Gwirio eich Cwmni Ambarél
Y ffordd orau o osgoi defnyddio cwmni ambarél sy’n gweithredu cynllun Arbed Treth yw trwy ddeall sut yr ydych yn cael eich talu.
Bydd gwirio eich slipiau cyflog a’ch trefniadau contractiol yn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol.
Gallwch ddefnyddio ein hofferyn ‘cyfrifo cyflog o gwmni ambarél’ er mwyn cyfrifo’r cyflog y dylech ei gael.
Er mwyn deall yn well am y ffordd y dylai eich slip cyflog edrych, darllenwch ein harweiniad ar slipiau cyflog.
P’un a ydych chi eisoes yn gweithio drwy gwmni ambarél, neu’n meddwl am gofrestru gydag un, dylech wirio’r cynlluniau Arbed Treth yr ydym wedi eu henwi.
Er mwyn cael rhagor o gyngor ar gwmnïau ambarél: Darllenwch ein harweiniad ar sut beth yw gweithio drwy gwmni ambarél, a sut y byddwch yn cael eich talu.
Cwmnïau ambarél – deall sut maent yn gweithio
Os ydych yn gontractwr, mae’n bosibl y cewch eich cyflogi drwy ‘gwmni ambarél’. Os ydych yn ansicr, mae’n syniad da i chi wirio, gan fod rhai cwmnïau ambarél yn ceisio torri’r rheolau treth.
Mae’n bosibl eich bod o dan berygl eich hun. Ond drwy ddeall sut mae cwmnïau ambarél yn gweithio, gallwch gymryd camau er mwyn osgoi’r risgiau hyn.
Darllenwch ein harweiniad ar sut beth yw gweithio drwy gwmni ambarél, a sut y byddwch yn cael eich talu.
Rhoi gwybod am gynllun Arbed Treth
Rhoi gwybod am gynllun Arbed Treth
Cysylltwch â ni os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi cael eich annog i ymuno â chynllun Arbed Treth
- rydych yn ymwybodol o gynllun Arbed Treth
- rydych am roi gwybod i ni am rywun sy’n gwerthu cynlluniau Arbed Treth
Gallwch wneud hynny yn anhysbys os yw’n well gennych – nid oes yn rhaid i chi roi eich enw, eich cyfeiriad na’ch cyfeiriad e-bost. Sicrhewch eich bod yn nodi’r cod ‘TAC’ wrth lenwi’r ffurflen.
Gallwch hefyd ffonio CThEF ar 0800 788 887. Os ydych y tu allan i’r DU, ffoniwch +44 (0)203 0800 871.
Rhowch eich barn
Hoffwn ni glywed eich barn am yr wybodaeth ar y dudalen hon, ac ar GOV.UK. Gallwn wedyn wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth rydyn ni’n rhoi yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi. Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.
Rhagor o wybodaeth
Mae gennym yr adnoddau a’r arweiniad canlynol ar Arbed Treth:
- Arweiniad ar sut i adnabod cynlluniau sy’n honni yn gelwyddog eu bod yn cynyddu eich cyflog clir os ydych yn gontractwr neu’n weithiwr asiantaeth
- Deg peth na fyddai hyrwyddwyr cynlluniau Arbed Treth wastad yn rhoi gwybod i chi amdano – arweiniad i’ch helpu i feddwl am y risgiau o ymgymryd â chynllun Arbed Treth; y risgiau byddai hyrwyddwr neu alluogwr yn eu cuddio
- Arweiniad ar statws cyflogaeth, a beth yw ystyr y term ‘contractwr’
- Spotlight 60 – gwybodaeth am drefniadau Arbed Treth sy’n cael eu defnyddio gan rai cwmnïau ambarél
- Spotlight 55 – dysgu’r hyn sydd angen i chi feddwl amdano cyn defnyddio cwmni ambarél er mwyn sicrhau ei fod yn dilyn rheolau treth
- Safonau CThEF ar gyfer asiantau – mae disgwyl i bob asiant ac ymgynghorydd sy’n cael ei dalu, boed wedi’i leoli yn y DU ai peidio, fodloni’r safonau hyn.