Skip to main content

Hawlio Treuliau Gwaith

Gwiriwch eich bod yn gymwys a mynd ati i hawlio treuliau gwaith yn uniongyrchol gyda CThEF am ddim. 

Peidiwch â chael eich dal wrthi drwy ddilyn hysbysebion ar-lein a chwmnïau ad-dalu treth sy’n cynnig gwneud hawliadau treuliau gwaith ar eich rhan fel y gallant hawlio comisiwn. Os yw’n ymddangos nad ydych yn gymwys i hawlio, rydych yn dal i fod yn gyfrifol am unrhyw hawliadau a wnaed ar eich rhan.      

Byddwn yn eich helpu i ddeall sut i wirio’r canlynol: 

  • a ydych yn gymwys i hawlio  
  • yr hyn y gallwch ei hawlio 
  • yr hyn na allwch ei hawlio 
  • sut i hawlio’n uniongyrchol gyda CThEF

Chi fydd yn cael cadw 100% o’r arian sy’n ddyledus i chi os ydych yn gymwys.

Gwirio

Dysgu am yr hyn y gallwch ei hawlio fel treuliau gwaith, a’r hyn na allwch ei hawlio. 

Adnabod

Adnabod arwyddion cyngor treth gwael. 

Hawlio

Hawlio’n uniongyrchol gyda CThEF. 

Gwirio’r hyn y gallwch ei hawlio fel treuliau gwaith, a’r hyn na allwch ei hawlio

Os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth am y mathau canlynol o dreuliau gwaith:  

  • Gweithio gartref 
  • Gwisgoedd unffurf, dillad gwaith ac offer   
  • Cerbydau rydych yn eu defnyddio ar gyfer gwaith   
  • Tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol   
  • Teithio, cynhaliaeth, a threuliau dros nos   
  • Prynu offer eraill 

Yn gyntaf, bydd yn rhaid i chi ailwirio a ydych yn gymwys er mwyn osgoi cael eich dal wrthi. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei hawlio, a’r hyn na allwch ei hawlio, a sut i hawlio rhyddhad treth ar eich treuliau swydd ar GOV.UK

Nid yw’n cymryd llawer o amser i wirio. Gallai arbed cryn dipyn o amser ac arian i chi yn hwyrach ymlaen. Felly, gwiriwch bob amser a ydych yn gymwys cyn gwneud hawliad. 

Sicrhewch fod eich hawliadau yn ddilys, hyd yn oed os ydych yn dewis defnyddio cwmni ad-dalu treth neu asiant. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw hawliad anghywir i CThEF yn hwyrach ymlaen. Mae gwneud hawliadau anghywir yn gallu arwain at CThEF yn cymryd camau pellach. 

Adnabod arwyddion cyngor gwael

Os oes rhywun yn cynnig yr addewid o arian hawdd i’w gael, a’i fod yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae hi’n bur debyg ei fod felly.

Drwy drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol, efallai bydd yn rhaid i chi ad-dalu cyfanswm unrhyw hawliad annilys a wnaed ar eich rhan. Bydd y cyfanswm hwn yn cynnwys unrhyw gomisiwn sydd eisoes wedi ei gymryd gan asiant.

Cyn defnyddio cwmni ad-dalu treth neu asiant treth ar gyfer ad-daliadau, ymchwiliwch a chymerwch eich amser. Os ydych yn dewis defnyddio asiant i weithredu ar eich rhan, gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am sut i ddewis asiant treth ar GOV.UK.

Dewch o hyd i’r pethau i fod yn wyliadwrus isod (cliciwch i ehangu):

Hawlio’n uniongyrchol gyda CThEF

Mae hawlio treuliau gwaith yn uniongyrchol gyda ni drwy GOV.UK yn ffordd gyflym, syml, ac mae’n rhad ac am ddim.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd i asiant na chomisiwn wrth wneud hyn eich hun.   

Ar gyfer y mwyafrif o hawliadau am dreuliau, bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth i ategu’ch hawliad. 

Bydd y dystiolaeth sydd ei hangen yn amrywio yn dibynnu ar y math o draul rydych yn ei hawlio. Gan ddefnyddio ein tudalen gwirio cymhwystra, mae gwirio pa dystiolaeth sydd ei hangen yn gyfleus. Gallwch gyflwyno eich hawliad a’ch tystiolaeth ar-lein neu drwy’r post.


Hanesion personol

Mae’r stori hon yn ddamcaniaethol ac wedi cael ei greu fel enghraifft yn unig, ond mae’r stori yn seiliedig ar brofiadau go iawn. Mae unrhyw debygrwydd i unigolyn yn gwbl ddamweiniol. 

Mae Mike yn weithiwr gofal iechyd. Mae cyd-weithiwr yn awgrymu dylai Mike ddefnyddio cwmni ad-dalu treuliau gwisg unffurf er mwyn hawlio ychydig o arian yn ôl gan CThEF. 

Mae Mike yn defnyddio’r gyfrifiannell ad-dalu sydd ar wefan y cwmni. Mae’r gyfrifiannell yn awgrymu y gallai hawlio £200 yn ôl gan CThEF fel treuliau sy’n berthnasol i’w waith.

Yn nes ymlaen, mae’r cwmni yn cymryd ffi o £80 o’r £200 yr oedd CThEF wedi’i ad-dalu.  Er ei fod wedi cael ei synnu gan ffi uchel y cwmni, mae Mike yn fodlon ar yr arian ychwanegol. 

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae CThEF yn rhoi gwybod i Mike nad oedd yn gymwys ar gyfer y treuliau a hawliwyd ar ei ran. Mae’n rhaid iddo dalu’r £200 yn ôl, yn ogystal â llog.

Mae Sam yn gweithio fel Gweithredwr Marchnata i gwmni lletygarwch.

Un noson, wrth edrych drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mae Sam yn gweld hysbyseb sy’n honni y gallai fod yn gymwys i hawlio hyd at £1,500 o dreuliau teithio, cynhaliaeth, a threuliau dros nos. Roedd hon yn hysbyseb gan gwmni a oedd yn honni ei fod yn gallu helpu gweithwyr i adhawlio arian am amrywiaeth o dreuliau sy’n berthnasol i’w gwaith.

Ar y diwrnod canlynol, fe wnaeth Sam roi gwybod am yr hysbyseb i’w chydweithwraig, Tara. Fe wnaeth Tara rybuddio Sam rhag cysylltu â’r cwmni. Roedd Tara yn cofio gweld hysbyseb gan CThEF ynghylch ei ymgais ‘Peidiwch â chael eich dal wrthi’. Roedd hi’n cofio’r neges: Os ydych yn gyflogai, mae’r mwyafrif o dreuliau yn cael eu had-dalu drwy’ch cyflogwr.

Os ydych wedi defnyddio cwmni ad-dalu treth, ac rydych o’r farn ei fod wedi gwneud ad-daliad treth annilys ar eich rhan, cysylltwch â ni fel y gallwn helpu. Byddwn yn cynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid sydd ei angen. 

Er mwyn cywiro hawliad am ad-dalu treth, cysylltwch â ni drwy’r dudalen sydd ar GOV.UK – Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy.

Rhowch eich barn

Hoffwn ni glywed eich meddyliau am yr wybodaeth ar y dudalen hon. Gallwn ni wedyn wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth rydyn ni’n rhoi yn y dyfodol.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 munud i’w lenwi. Mae atebion yn ddienw – fyddwn ni ddim yn gofyn i chi nodi unrhyw wybodaeth bersonol a fyddai’n datgelu pwy ydych chi.

Lawrlwythwch ap CThEF i gadw trefn eich arian a’ch treth.