Mae cael cyngor ar eich materion treth yn aml yn werthfawr. Ond nid aur yw popeth melyn – gall y cyngor fod yn un gwael. Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn ceisio gwerthu pethau i chi sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir.
Rydym yma i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir ynghylch eich materion treth. Byddwn yn helpu fel na fyddwch yn cael eich twyllo gan gyngor treth gwael.
Drwy hynny, byddwch yn cadw’n glir o gynlluniau Arbed Treth. Byddwch yn sicrhau nad ydych yn hawlio treuliau am bethau a allai, yn y pendraw, fod yn gostus ac yn draul ar eich amser.
Arbed Treth
Deall trefniadau’ch cyflog fel nad ydych yn cael unrhyw filiau treth annisgwyl. Gallwch hefyd ddysgu sut i adnabod a rhoi gwybod am gynlluniau Arbed Treth, yn ogystal â sut i adael cynlluniau o’r fath.
Hawlio treuliau
Hawlio rhyddhad treth yn uniongyrchol ar dreuliau gwaith sy’n gymwys, a chadw eich holl ad-daliad heb gostau.
Diogelu’ch hun rhag sgamiau
Gallwch wirio sut i adnabod sgamiau yn enw CThEF. Gallant fod ar ffurf galwadau ffôn, e-byst neu negeseuon testun a gallwch roi gwybod am unrhyw sgam yn ymwneud â threth.
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo gan sgam, cysylltwch ag Action Fraud.
Mynd trwy wiriad cydymffurfio treth? Defnyddiwch ein hofferyn ar-lein i’ch tywys drwy’r cymorth sydd ar gael.